Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 7:2-11

2 Corinthiaid 7:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Rhowch le i ni yn eich calonnau. Ni wnaethom gam â neb, na llygru neb, na chymryd mantais ar neb. Nid i'ch condemnio yr wyf yn dweud hyn, oherwydd dywedais wrthych o'r blaen eich bod mor agos at ein calon, nes ein bod gyda'n gilydd, deued marwolaeth neu fywyd. Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo â llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder. Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd—brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn. Ond y mae Duw, yr un sydd yn diddanu'r digalon, wedi ein diddanu ninnau trwy ddyfodiad Titus; ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad ef, ond hefyd trwy'r diddanwch a gafodd ef ynoch chwi. Y mae wedi dweud wrthym am eich hiraeth amdanaf, am eich galar, ac am eich sêl drosof, nes gwneud fy llawenydd yn fwy byth. Oherwydd er i mi beri loes i chwi â'm llythyr, nid yw'n flin gennyf; rwy'n gweld i'r llythyr hwnnw beri loes i chwi, o leiaf dros dro, ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni. Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth. Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath sêl, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn.

2 Corinthiaid 7:2-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb. Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel dwedais i, dych chi’n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi’n fawr. Dw i’n wirioneddol hapus er gwaetha’r holl drafferthion. Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o’r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o’r tu allan, ac ofnau o’n mewn ni. Ond mae Duw’n cysuro’r rhai sy’n ddigalon, a dyma fe’n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni. Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi’i gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi’n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Rôn i’n hapusach fyth wedyn! Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi’ch brifo chi. Rôn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro. Felly dw i’n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna’r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi. Mae’r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i’w ddifaru! Ond dydy teimlo’n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol. Edrychwch beth mae’r tristwch mae Duw’n edrych amdano wedi’i wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio’r peth allan, ac wedi’ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi’r troseddwr. Drwy’r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.

2 Corinthiaid 7:2-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb. Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus. Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.