2 Corinthiaid 5:17-21
2 Corinthiaid 5:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi’i greu yn berson newydd: mae’r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! A Duw sy’n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni’r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. Dŷn ni’n llysgenhadon yn cynrychioli’r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni’n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e’n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni’n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.
2 Corinthiaid 5:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma. Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod. Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod. Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw. Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
2 Corinthiaid 5:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.