2 Corinthiaid 5:17-19
2 Corinthiaid 5:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi’i greu yn berson newydd: mae’r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! A Duw sy’n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni’r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.
2 Corinthiaid 5:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma. Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod. Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.
2 Corinthiaid 5:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod.