2 Corinthiaid 5:16-17
2 Corinthiaid 5:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae’r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi’i greu yn berson newydd: mae’r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!
2 Corinthiaid 5:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach. Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma.
2 Corinthiaid 5:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach. Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.