2 Corinthiaid 5:14-15
2 Corinthiaid 5:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cariad y Meseia sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau. A dyma’n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i’r rhai sy’n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio’r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.
2 Corinthiaid 5:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw. A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio â byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
2 Corinthiaid 5:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.