2 Corinthiaid 5:1-8
2 Corinthiaid 5:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni’n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni’n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi’i adeiladu ganddo fe’i hun. Yn y cyfamser dŷn ni’n hiraethu am gael ein gwisgo â’n cyrff nefol. A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. Tra’n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni’n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo’r corff nefol. Dŷn ni eisiau i’r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy’n para am byth. Mae Duw ei hun wedi’n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi’r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod. Felly dŷn ni’n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra’n byw yn ein corff daearol, ac wedi’n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. Dŷn ni’n byw yn ôl beth dŷn ni’n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni’n ei weld. Dw i’n dweud eto ein bod ni’n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai’n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda’r Arglwydd!
2 Corinthiaid 5:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd. Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo â'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni; o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth. Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd. Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes. Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd; oherwydd yn ôl ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn ôl golwg. Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd.
2 Corinthiaid 5:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd. Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd.