2 Corinthiaid 5:1-5
2 Corinthiaid 5:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni’n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni’n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi’i adeiladu ganddo fe’i hun. Yn y cyfamser dŷn ni’n hiraethu am gael ein gwisgo â’n cyrff nefol. A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. Tra’n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni’n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo’r corff nefol. Dŷn ni eisiau i’r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy’n para am byth. Mae Duw ei hun wedi’n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi’r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod.
2 Corinthiaid 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd. Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo â'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni; o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth. Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd. Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes.
2 Corinthiaid 5:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd.