Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 5:1-21

2 Corinthiaid 5:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni’n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni’n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi’i adeiladu ganddo fe’i hun. Yn y cyfamser dŷn ni’n hiraethu am gael ein gwisgo â’n cyrff nefol. A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. Tra’n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni’n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo’r corff nefol. Dŷn ni eisiau i’r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy’n para am byth. Mae Duw ei hun wedi’n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi’r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod. Felly dŷn ni’n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra’n byw yn ein corff daearol, ac wedi’n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. Dŷn ni’n byw yn ôl beth dŷn ni’n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni’n ei weld. Dw i’n dweud eto ein bod ni’n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai’n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda’r Arglwydd! Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe. Achos bydd pob un ohonon ni’n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb yn derbyn beth mae’n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg. Felly, am ein bod ni’n gwybod fod yr Arglwydd i’w ofni, dŷn ni’n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i’n hyderus eich bod chi’n gwybod eich bod chi’n gallu’n trystio ni hefyd. Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon. Os ydyn ni’n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni’n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi. Cariad y Meseia sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau. A dyma’n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i’r rhai sy’n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio’r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto. Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae’r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi’i greu yn berson newydd: mae’r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! A Duw sy’n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni’r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. Dŷn ni’n llysgenhadon yn cynrychioli’r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni’n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e’n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni’n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.

2 Corinthiaid 5:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd. Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo â'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni; o'n gwisgo felly, ni cheir mohonom yn noeth. Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd. Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes. Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd; oherwydd yn ôl ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn ôl golwg. Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd. Y mae ein bryd, felly, gartref neu oddi cartref, ar fod yn gymeradwy ganddo ef. Oherwydd rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei dâl yn ôl ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg. Felly, o wybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio pobl; y mae'r hyn ydym yn hysbys i Dduw, ac rwy'n gobeithio ei fod yn hysbys i'ch cydwybod chwi hefyd. Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto i chwi, ond rhoi cyfle yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni, er mwyn ichwi gael ateb i'r rhai sy'n ymffrostio yn yr hyn sydd ar yr wyneb yn hytrach na'r hyn sydd yn y galon. Os ydym allan o'n pwyll, er mwyn Duw y mae hynny; os ydym yn ein hiawn bwyll, er eich mwyn chwi y mae hynny. Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw. A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio â byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach. Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma. Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod. Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod. Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw. Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

2 Corinthiaid 5:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd. Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef. Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon. Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym. Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach. Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.