2 Corinthiaid 3:5-6
2 Corinthiaid 3:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni’n hunain i hawlio’r clod am ddim byd – Duw sy’n ein gwneud ni’n deilwng. Mae wedi’n gwneud ni’n deilwng i wasanaethu’r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae’r Ysbryd yn rhoi bywyd.
2 Corinthiaid 3:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni, oherwydd ef a'n gwnaeth ni'n ddigonol i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid cyfamod y gair ysgrifenedig, ond cyfamod yr Ysbryd. Oherwydd lladd y mae'r gair ysgrifenedig, ond rhoi bywyd y mae'r Ysbryd.
2 Corinthiaid 3:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw; Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau.