2 Corinthiaid 3:4-18
2 Corinthiaid 3:4-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth mae’r Meseia wedi’i wneud sy’n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw. Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni’n hunain i hawlio’r clod am ddim byd – Duw sy’n ein gwneud ni’n deilwng. Mae wedi’n gwneud ni’n deilwng i wasanaethu’r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae’r Ysbryd yn rhoi bywyd. Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda’r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen.) Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi’n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol? Os oedd y drefn sy’n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy’n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw! Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar! Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros! Gan mai dyma dŷn ni’n edrych ymlaen ato, dŷn ni’n gallu cyhoeddi’n neges yn gwbl hyderus. Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd. Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae’r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau’r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy’n gallu cael gwared â’r gorchudd! Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae’r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw. Ac eto’r Gyfraith ei hun sy’n dweud, “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae’r gair ‘Arglwydd’; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni’n troi’n fwy a mwy disglair o hyd. A’r Ysbryd Glân ydy’r Arglwydd sy’n gwneud hyn i gyd.
2 Corinthiaid 3:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyna'r fath hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw. Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni, oherwydd ef a'n gwnaeth ni'n ddigonol i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid cyfamod y gair ysgrifenedig, ond cyfamod yr Ysbryd. Oherwydd lladd y mae'r gair ysgrifenedig, ond rhoi bywyd y mae'r Ysbryd. Gweini marwolaeth oedd swydd y Gyfraith a'i geiriau cerfiedig ar feini, ond gan gymaint gogoniant ei chyflwyno, ni allai'r Israeliaid syllu ar wyneb Moses o achos y gogoniant oedd arno, er mai rhywbeth i ddiflannu ydoedd. Os felly, pa faint mwy fydd gogoniant gweinidogaeth yr Ysbryd? Oherwydd os oedd gogoniant yn perthyn i weinidogaeth sy'n condemnio, rhagorach o lawer mewn gogoniant yw gweinidogaeth sy'n cyfiawnhau. Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach. Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn oedd i ddiflannu, gymaint mwy yw gogoniant yr hyn sydd i aros! Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn, ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu. Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef. Hyd y dydd hwn, pryd bynnag y darllenir Cyfraith Moses, y mae'r gorchudd yn gorwedd ar eu meddwl. Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd. Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
2 Corinthiaid 3:4-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw; Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau. Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd; Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant. Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol. Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus. Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr: Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid. Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir. Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt. Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.