2 Corinthiaid 3:2-3
2 Corinthiaid 3:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chi eich hunain ydy’n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi’i ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen. Yn wir, mae’n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi – a’i fod wedi’i roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi’i ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl!
2 Corinthiaid 3:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi yw ein llythyr ni; y mae wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, a gall pob un ei ddeall a'i ddarllen. Yr ydych yn dangos yn eglur mai llythyr Crist ydych, llythyr a gyflwynwyd gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig, ond ar lechau'r galon ddynol.
2 Corinthiaid 3:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn: Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.