2 Corinthiaid 3:16-18
2 Corinthiaid 3:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac eto’r Gyfraith ei hun sy’n dweud, “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae’r gair ‘Arglwydd’; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni’n troi’n fwy a mwy disglair o hyd. A’r Ysbryd Glân ydy’r Arglwydd sy’n gwneud hyn i gyd.
2 Corinthiaid 3:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd. Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
2 Corinthiaid 3:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.