2 Corinthiaid 3:12-18
2 Corinthiaid 3:12-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gan mai dyma dŷn ni’n edrych ymlaen ato, dŷn ni’n gallu cyhoeddi’n neges yn gwbl hyderus. Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd. Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae’r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau’r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy’n gallu cael gwared â’r gorchudd! Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae’r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw. Ac eto’r Gyfraith ei hun sy’n dweud, “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae’r gair ‘Arglwydd’; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni’n troi’n fwy a mwy disglair o hyd. A’r Ysbryd Glân ydy’r Arglwydd sy’n gwneud hyn i gyd.
2 Corinthiaid 3:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn, ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu. Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef. Hyd y dydd hwn, pryd bynnag y darllenir Cyfraith Moses, y mae'r gorchudd yn gorwedd ar eu meddwl. Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd. Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
2 Corinthiaid 3:12-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr: Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid. Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir. Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt. Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.