2 Corinthiaid 2:7-11
2 Corinthiaid 2:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch. Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato. Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth. Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist, rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef.
2 Corinthiaid 2:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Erbyn hyn mae’n bryd i chi faddau iddo a’i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu’n llwyr a suddo i anobaith. Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi’n dal i’w garu. Rôn i’n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio’r prawf a bod yn gwbl ufudd. Dw i’n maddau i bwy bynnag dych chi’n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i’w faddau. Mae’r Meseia ei hun yn gwybod mod i wedi gwneud hynny. Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni’n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
2 Corinthiaid 2:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.