Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 2:1-17

2 Corinthiaid 2:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Penderfynais beidio â dod atoch unwaith eto mewn tristwch. Oherwydd os wyf fi'n eich tristáu, pwy fydd yna i'm llonni i ond y sawl a wnaed yn drist gennyf fi? Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd. Oherwydd ysgrifennais atoch o ganol gorthrymder mawr a gofid calon, ac mewn dagrau lawer, nid i'ch tristáu chwi ond er mwyn ichwi wybod mor helaeth yw'r cariad sydd gennyf tuag atoch. Os yw rhywun wedi peri tristwch, nid i mi y gwnaeth hynny, ond i chwi i gyd—i raddau, beth bynnag, rhag i mi or-ddweud. Digon i'r fath un y gosb hon a osodwyd arno gan y mwyafrif, a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch. Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato. Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth. Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist, rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef. Pan ddeuthum i Troas i bregethu Efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i'm gwaith yn yr Arglwydd, ni chefais lonydd i'm hysbryd am na ddeuthum o hyd i'm brawd Titus. Felly cenais yn iach iddynt, a chychwyn am Facedonia. Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, i'r rhai sydd ar lwybr iachawdwriaeth ac i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth; i'r naill, arogl marwol yn arwain i farwolaeth; i'r lleill, persawr bywiol yn arwain i fywyd. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn? Oherwydd nid pedlera gair Duw yr ydym ni fel y gwna cynifer, ond llefaru fel dynion didwyll, fel cenhadon Duw, a hynny yng ngŵydd Duw, yng Nghrist.

2 Corinthiaid 2:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai’n achosi poen i bawb. Os ydw i’n eich gwneud chi’n drist, pwy sy’n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo? Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i’ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Rôn i’n siŵr mai beth sy’n fy ngwneud i’n hapus sy’n eich gwneud chi’n hapus yn y pen draw. Roedd ysgrifennu’r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Rôn i’n ddigalon iawn, a bues i’n wylo’n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau’ch gwneud chi’n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i’n eich caru chi! Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i’r peth swnio’n waeth nag y mae). Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i’w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir. Erbyn hyn mae’n bryd i chi faddau iddo a’i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu’n llwyr a suddo i anobaith. Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi’n dal i’w garu. Rôn i’n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio’r prawf a bod yn gwbl ufudd. Dw i’n maddau i bwy bynnag dych chi’n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i’w faddau. Mae’r Meseia ei hun yn gwybod mod i wedi gwneud hynny. Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni’n gwybod yn iawn am ei gastiau e! Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi’r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd, doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i’n disgwyl. Felly dyma fi’n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano. Ond diolch i Dduw, mae’r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni’n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy’r byd i gyd! Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy’n cael eu hachub a’r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw. Mae fel mwg gwenwynig i’r ail grŵp, ond i’r lleill yn bersawr hyfryd sy’n arwain i fywyd. Pwy sy’n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd! Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! – dŷn ni’n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi’r neges mae Duw wedi’i rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.

2 Corinthiaid 2:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef. Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.