Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 11:16-33

2 Corinthiaid 11:16-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i’n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi’n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio’r ffŵl drwy frolio tipyn bach? Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai’r Arglwydd am i mi siarad – actio’r ffŵl ydw i. Ond am fod cymaint yn brolio fel mae’r byd yn gwneud, dw i’n mynd i wneud yr un peth. Wedi’r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi’n barod iawn i oddef ffyliaid! Yn wir, dych chi’n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw’n eich caethiwo chi. Dych chi’n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi’n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw’n eich trin chi! Mae gen i gywilydd ohono i’n hun, fy mod i’n rhy wan i’ch trin chi felly! Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio’r ffŵl ydw i!) Maen nhw’n Iddewon sy’n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi! Gweision i’r Meseia? Dw i’n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio’n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw’n aml. Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip). Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith. Un o’r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain. Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill; dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy’n cymryd arnyn eu bod nhw’n Gristnogion. Dw i wedi gweithio’n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw’n gynnes. A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd. Os ydy rhywun yn teimlo’n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i’n berwi y tu mewn! Os oes rhaid i mi frolio, mae’n well gen i frolio am y pethau hynny sy’n dangos mor wan ydw i. Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i’w foli am byth – yn gwybod mod i’n dweud y gwir. Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i’r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i. Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o’i afael!

2 Corinthiaid 11:16-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Rwy'n dweud eto: na thybied neb fy mod yn ffôl. Ond os gwnewch, rhowch i mi ryddid un ffôl i ymffrostio tipyn bach. Yr wyf yn siarad yn awr, yn yr hyder ymffrostgar hwn, nid fel y mynnai'r Arglwydd imi siarad, ond mewn ffolineb. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl safonau'r cnawd, fe ymffrostiaf finnau hefyd. Oherwydd yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, a chwithau mor ddoeth! Os bydd rhywun yn eich caethiwo, neu yn eich ysbeilio, neu yn cymryd mantais arnoch, neu yn ymddyrchafu, neu yn eich taro ar eich wyneb, yr ydych yn goddef y cwbl. Rwy'n cydnabod, er cywilydd, i ni fod yn wan yn hyn o beth. Ond os oes rhywbeth y beiddia rhywun ymffrostio amdano, fe feiddiaf finnau hefyd—mewn ffolineb yr wyf yn siarad. Ai Hebreaid ydynt? Minnau hefyd. Ai Israeliaid ydynt? Minnau hefyd. Ai disgynyddion Abraham ydynt? Minnau hefyd. Ai gweision Crist ydynt? Yr wyf yn siarad yn wallgof, myfi yn fwy; yn fwy o lawer mewn llafur, yn amlach o lawer yng ngharchar, dan y fflangell yn fwy mynych, mewn perygl einioes dro ar ôl tro. Pumwaith y cefais ar law'r Iddewon y deugain llach ond un. Tair gwaith fe'm curwyd â ffyn, unwaith fe'm llabyddiwyd, tair gwaith bûm mewn llongddrylliad, ac am ddiwrnod a noson bûm yn y môr. Bûm ar deithiau yn fynych, mewn peryglon gan afonydd, peryglon ar law lladron, peryglon ar law fy nghenedl fy hun ac ar law'r Cenhedloedd, peryglon yn y dref ac yn yr anialwch ac ar y môr, a pheryglon ymhlith gau gredinwyr. Bûm mewn llafur a lludded, yn fynych heb gwsg, mewn newyn a syched, yn fynych heb luniaeth, yn oer ac yn noeth. Ar wahân i bob peth arall, y mae'r gofal dros yr holl eglwysi yn gwasgu arnaf ddydd ar ôl dydd. Pan fydd rhywun yn wan, onid wyf finnau'n wan? Pan berir i rywun gwympo, onid wyf finnau'n llosgi gan ddicter? Os oes rhaid ymffrostio, ymffrostiaf am y pethau sy'n perthyn i'm gwendid. Y mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sydd fendigedig am byth, yn gwybod nad wyf yn dweud celwydd. Yn Namascus, yr oedd y llywodraethwr oedd dan y Brenin Aretas yn gwylio dinas Damascus er mwyn fy nal i, ond cefais fy ngollwng i lawr mewn basged drwy ffenestr yn y mur, a dihengais o'i afael.

2 Corinthiaid 11:16-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un. Tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi. Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.