2 Corinthiaid 11:1-6
2 Corinthiaid 11:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn. Os dw i’n genfigennus, Duw sy’n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi’ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi’n wyryf bur i’r Meseia. Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a’ch denu i ffwrdd o’ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys. Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i’r un roedden ni’n ei bregethu. Dych chi’n derbyn ysbryd sy’n wahanol, neu ‘newyddion da’ gwahanol, a dych chi’n goddef y cwbl yn ddigon hapus! Ond dw i ddim yn meddwl mod i’n israddol o gwbl i’r ‘ffansi-apostolion’ yna. Falle nad ydw i’n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i’n gwybod beth ydy’r gwir. Mae’r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.
2 Corinthiaid 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na baech yn fy ngoddef yn fy nhipyn ffolineb! Da chwi, goddefwch fi! Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dyweddïo i un gŵr, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist. Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist. Oherwydd os daw rhywun a phregethu Iesu arall, na phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd gwahanol i'r Ysbryd a dderbyniasoch, neu efengyl wahanol i'r Efengyl a dderbyniasoch, yr ydych yn goddef y cwbl yn llawen. Nid wyf yn f'ystyried fy hun yn ôl mewn dim i'r archapostolion hyn. Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth; ym mhob ffordd ac ar bob cyfle yr ydym wedi gwneud hyn yn eglur i chwi.
2 Corinthiaid 11:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi. Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist. Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist. Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef. Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf. Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim.