2 Corinthiaid 11:1-3
2 Corinthiaid 11:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn. Os dw i’n genfigennus, Duw sy’n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi’ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi’n wyryf bur i’r Meseia. Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a’ch denu i ffwrdd o’ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.
2 Corinthiaid 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na baech yn fy ngoddef yn fy nhipyn ffolineb! Da chwi, goddefwch fi! Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dyweddïo i un gŵr, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist. Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist.
2 Corinthiaid 11:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi. Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist. Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.