2 Corinthiaid 10:4-5
2 Corinthiaid 10:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
canys nid arfau gwan y cnawd yw arfau ein milwriaeth ni, ond rhai nerthol Duw sy'n dymchwel cestyll. Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.
2 Corinthiaid 10:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau’r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! – mae’n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy’n rhoi’r nerth i ni chwalu’r cestyll mae’r gelyn yn eu hamddiffyn. Dŷn ni’n chwalu dadleuon a’r syniadau balch sy’n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni’n rhwymo’r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i’r Meseia.
2 Corinthiaid 10:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
(Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr;) Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist