2 Corinthiaid 10:12
2 Corinthiaid 10:12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu’n hunain a rhoi’n hunain yn yr un dosbarth â’r rhai hynny sy’n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â’i gilydd, maen nhw’n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn.
2 Corinthiaid 10:12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid ydym yn beiddio cystadlu na'n cymharu ein hunain â'r rhai sydd yn eu canmol eu hunain. Pobl heb ddeall ydynt, yn eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain â hwy eu hunain.
2 Corinthiaid 10:12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.