2 Corinthiaid 1:3-7
2 Corinthiaid 1:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch. Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder. Oherwydd fel y mae dioddefiadau Crist yn gorlifo hyd atom ni, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn gorlifo. Os gorthrymir ni, er mwyn eich diddanwch chwi a'ch iachawdwriaeth y mae hynny; neu os diddenir ni, er mwyn eich diddanwch chwi y mae hynny hefyd, i'ch nerthu i ymgynnal dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef. Y mae sail sicr i'n gobaith amdanoch, oherwydd fe wyddom fod i chwi gyfran yn y diddanwch yn union fel y mae gennych gyfran yn y dioddefiadau.
2 Corinthiaid 1:3-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni’n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw’n ein cysuro ni. Po fwya dŷn ni’n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni’n cael ein cysuro ganddo. Dŷn ni’n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a’ch cadw’n saff. Pan dŷn ni’n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a’ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi’n dioddef yr un fath â ni. A dŷn ni’n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.
2 Corinthiaid 1:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch; Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw. Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau. A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny. Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch.