2 Cronicl 9:3-4
2 Cronicl 9:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y frenhines wedi’i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi’i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a’r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i’r ARGLWYDD yn y deml.
2 Cronicl 9:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan welodd brenhines Sheba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.
2 Cronicl 9:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad, a’i drulliadau ef, a’u gwisgoedd, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.