Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 6:12-42

2 Cronicl 6:12-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna o flaen pawb, dyma fe’n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i’r awyr. (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a’i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a chodi ei ddwylo i’r awyr, a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na’r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw’r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i’m cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’ Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i’r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir. Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda’r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy’r awyr i gyd a’r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i’r deml yma dw i wedi’i hadeiladu? Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo’n daer arnat ti. Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di’n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn. Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo’n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti’n byw. Clyw ni a maddau i ni. Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i’w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, yna gwrando di o’r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba’r un sy’n euog, a gadael i’r dieuog fynd yn rhydd. Rho i’r ddau beth maen nhw’n ei haeddu. Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di, os byddan nhw’n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma, yna gwrando di o’r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a thyrd â nhw’n ôl i’r wlad wnest ti ei rhoi iddyn nhw a’u hynafiaid. Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw’n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw yna gwrando di o’r nefoedd. Maddau i dy bobl Israel. Dysga nhw beth ydy’r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y tir yma rwyt ti wedi’i roi i dy bobl ei gadw. Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi’u difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu’r broblem, gwrando di ar bob gweddi. Gwranda pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei ofid o dy flaen di. Gwranda yn y nefoedd lle rwyt ti’n byw, a maddau. Rho i bob un beth mae’n ei haeddu. (Ti ydy’r unig un sy’n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) Fel yna byddan nhw’n dy barchu di ac yn byw fel rwyt ti eisiau tra byddan nhw’n byw yn y wlad wyt ti wedi’i rhoi i’w hynafiaid. A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti – am dy enw da di, a’r ffaith dy fod ti’n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i’r deml hon i weddïo, gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti’n byw. Gwna beth mae’r bobl hynny’n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy’r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw’n gwybod fod y deml yma wedi’i hadeiladu i dy anrhydeddu di. Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di’n eu hanfon nhw. Os byddan nhw’n troi tuag at y ddinas yma rwyt ti wedi’i dewis a’r deml dw i wedi’i hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti, yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw. Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a thithau’n wyllt gyda nhw, byddi’n gadael i’r gelyn eu dal nhw a’u cymryd yn gaeth i’w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. Yna, yn y wlad ble maen nhw’n gaeth, byddan nhw’n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw’n troi yn ôl atat ti ac yn pledio’n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ Byddan nhw’n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw’n troi i weddïo tuag at eu gwlad a’r ddinas rwyt ti wedi’i dewis, a’r deml dw i wedi’i hadeiladu i ti. Gwranda o’r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a’u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a’r pethau drwg maen nhw wedi’u gwneud yn dy erbyn di. Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy’n cael eu hoffrymu yn y lle yma. A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref – ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i’r rhai sy’n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni. O ARGLWYDD Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi’i eneinio. Cofia’r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.”

2 Cronicl 6:12-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, a chodi ei ddwylo. Yr oedd wedi gwneud llwyfan pres, pum cufydd o hyd, pum cufydd o led, a thri chufydd o uchder, a'i osod yng nghanol y cyntedd. Dringodd i fyny arno a phenlinio yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, gan estyn ei ddwylo tua'r nef a dweud: “O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nefoedd na'r ddaear, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th weision sy'n dy wasanaethu â'u holl galon. Canys cedwaist dy addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist â'th law yr hyn a addewaist â'th enau. Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd, fy nhad, pan ddywedaist wrtho, ‘Gofalaf na fyddi heb ŵr i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a chadw fy nghyfraith fel y gwnaethost ti.’ Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd. “Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear gyda meidrolion? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais! Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron. Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, ‘Fy enw a fydd yno’: a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando hefyd ar ddeisyfiadau dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando o'r nef lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau. “Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn, gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th weision drwy gosbi'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder. “Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn, gwrando di o'r nef a maddau bechod dy bobl Israel, ac adfer hwy i'r tir a roddaist iddynt hwy ac i'w hynafiaid. “Os bydd y nefoedd wedi cau, heb ddim glaw, am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechodau oherwydd iti eu cosbi, gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl. “Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelynion yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd—beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd— clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan unrhyw un a chan bob un o'th bobl Israel sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun a'i boen, ac yn estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn; gwrando hefyd o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau, a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod pob calon ddynol; felly byddant yn dy ofni ac yn rhodio yn dy ffyrdd holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid. “Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw mawr a'th law gref a'th fraich estynedig, a gweddïo tua'r tŷ hwn, gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i. “Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelynion, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo arnat tua'r ddinas hon a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, gwrando di o'r nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos. “Os pechant yn d'erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad bell neu agos, ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat yng ngwlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’, ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad eu caethiwed lle y cawsant eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw, gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos a maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn. Felly, fy Nuw, bydded dy lygaid yn sylwi a'th glust yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn. Cyfod, yn awr, O ARGLWYDD Dduw, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. Bydded dy offeiriaid, O ARGLWYDD Dduw, wedi eu gwisgo ag iachawdwriaeth, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu yn eu llwyddiant. O ARGLWYDD Dduw, paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog; cofia ffyddlondeb dy was Dafydd.”

2 Cronicl 6:12-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo: Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes DUW cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon: Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn. Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i. Yn awr gan hynny, O ARGLWYDD DDUW Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd. Ai gwir yw, y preswylia DUW gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i? Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy NUW, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron: Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos, tua’r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon. Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau. Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn: Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder. A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn: Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy, ac i’w tadau. Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt: Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth. Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo; Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a’i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn: Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;) Fel y’th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i’n tadau ni. Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a’th law gadarn, a’th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn: Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y’th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i. Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt. Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt, a’u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos; Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol; Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn. Yn awr, O fy NUW, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma. Ac yn awr cyfod, O ARGLWYDD DDUW, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O ARGLWYDD DDUW, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni. O ARGLWYDD DDUW, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.