1 Timotheus 4:7-8
1 Timotheus 4:7-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy’n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae’n dda i ti’n y bywyd hwn a’r bywyd sydd i ddod.
1 Timotheus 4:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol. Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw.
1 Timotheus 4:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd.