1 Timotheus 4:7-10
1 Timotheus 4:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy’n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae’n dda i ti’n y bywyd hwn a’r bywyd sydd i ddod. Ydy, mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu’r peth. Dyma’r rheswm pam dŷn ni’n dal ati i weithio’n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy’n achub pob math o bobl – pawb sy’n credu.
1 Timotheus 4:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol. Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr. I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb.
1 Timotheus 4:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid.