1 Timotheus 4:6-16
1 Timotheus 4:6-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau’r ffydd a’r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi’i derbyn, byddi di’n was da i Iesu y Meseia. Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy’n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae’n dda i ti’n y bywyd hwn a’r bywyd sydd i ddod. Ydy, mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu’r peth. Dyma’r rheswm pam dŷn ni’n dal ati i weithio’n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy’n achub pob math o bobl – pawb sy’n credu. Gwna’n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw. Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di’n ifanc. Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad, a sut rwyt ti’n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a’th fywyd glân. Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a’u dysgu nhw. Paid ag esgeuluso’r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith. Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti’n dod yn dy flaen. Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.
1 Timotheus 4:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun â geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn. Paid â gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol. Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr. I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb. Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt. Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb. Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi. Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid. Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb. Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.
1 Timotheus 4:6-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. Y pethau hyn gorchymyn a dysg. Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.