1 Timotheus 4:1-5
1 Timotheus 4:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond mae’r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw’n gwrando ar ysbrydion sy’n twyllo ac yn credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu. Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy’n dysgu pethau felly. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi’i serio gyda haearn poeth. Maen nhw’n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i’w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy’n credu ac sy’n gwybod beth ydy’r gwir. Ac mae popeth mae Duw wedi’i greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i’w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.
1 Timotheus 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog. Pobl yw'r rhain â'u cydwybod wedi ei serio, yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod â bwydydd—bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn â diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd. Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn â diolch iddo ef, oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.
1 Timotheus 4:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.