1 Timotheus 1:18-19
1 Timotheus 1:18-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Timotheus, fy mab, dw i’n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi’i broffwydo amdanat ti): Mae’n bwysig dy fod ti’n ymladd yn dda yn y frwydr. Dal dy afael yn beth rwyt ti’n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi’i dryllio.
1 Timotheus 1:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Timotheus, fy mab, dyma'r siars sydd gennyf i ti, o gofio'r dystiolaeth broffwydol a roddwyd iti o'r blaen; ymddiried yn hyn a bydd lew yn y frwydr, gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Am i rai ddiystyru cydwybod, drylliwyd llong eu ffydd.
1 Timotheus 1:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd