Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 1:1-11

1 Timotheus 1:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy’n ein hachub ni, a’r Meseia, yr un mae’n gobaith ni ynddo. Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd: Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni. Fel y gwnes i pan oeddwn i’n teithio i dalaith Macedonia, dw i’n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy’n dysgu pethau sydd ddim yn wir, yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dŷn nhw’n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu. Y rheswm pam dw i’n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i’w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw’n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn. Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw’n treulio eu hamser yn siarad nonsens! Maen nhw’n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n sôn amdano er eu bod nhw’n siarad mor awdurdodol! Dŷn ni’n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi’n cael ei thrin yn iawn. Dŷn ni’n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy’n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy’n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy’n lladd eu tadau a’u mamau, llofruddion, pobl sy’n pechu’n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy’n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy’n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy’n groes i ddysgeidiaeth gywir. Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â’r newyddion da sy’n dweud wrthon ni mor wych ydy’r Duw bendigedig! Dyma’r newyddion da mae e wedi rhoi’r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi.

1 Timotheus 1:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol Crist Iesu trwy orchymyn Duw, ein Gwaredwr, a Christ Iesu, ein gobaith, at Timotheus, ei blentyn diledryw yn y ffydd. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd. Pan oeddwn ar gychwyn i Facedonia, pwysais arnat i ddal ymlaen yn Effesus, a gorchymyn i rai pobl beidio â dysgu athrawiaethau cyfeiliornus, a rhoi'r gorau i chwedlau ac achau diddiwedd. Pethau yw'r rhain sy'n hyrwyddo dyfaliadau ofer yn hytrach na chynllun achubol Duw, a ganfyddir trwy ffydd. Diben y gorchymyn hwn yw'r cariad sy'n tarddu o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiffuant. Gwyro oddi wrth y rhinweddau hyn a barodd i rai droi mewn dadleuon diffaith. Y maent â'u bryd ar fod yn athrawon y Gyfraith, ond nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol. Fe wyddom fod y Gyfraith yn beth ardderchog os caiff ei harfer yn briodol fel cyfraith. Gadewch inni ddeall hyn: y mae'r Gyfraith wedi ei llunio, nid ar gyfer y sawl sy'n cadw'r Gyfraith ond ar gyfer y rheini sy'n ei thorri a'i herio, sef yr annuwiol a'r pechadurus, y digrefydd a'r di-dduw, y rhai sy'n lladd tad a mam, yn llofruddio, yn puteinio, yn ymlygru â'u rhyw eu hunain, yn herwgipio, yn dweud celwydd, yn tyngu ar gam, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i'r athrawiaeth iach sy'n perthyn i'r Efengyl a ymddiriedwyd i mi, Efengyl ogoneddus y Duw gwynfydedig.