1 Thesaloniaid 5:8-11
1 Thesaloniaid 5:8-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dŷn ni’n perthyn i’r dydd. Gadewch i ni fyw’n gyfrifol, wedi’n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a’r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed. Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Buodd e farw yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag e am byth – ie, ni sy’n dal yn fyw a hefyd y rhai sydd wedi marw. Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.
1 Thesaloniaid 5:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm. Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn. Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.
1 Thesaloniaid 5:8-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.