1 Thesaloniaid 5:21-28
1 Thesaloniaid 5:21-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda. Cadwch draw oddi wrth bob math o ddrygioni. Dw i’n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy’n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi’n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw’n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. Mae’r Duw sy’n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn. Gweddïwch droson ni, ffrindiau. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Dw i’n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y brodyr a’r chwiorydd i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
1 Thesaloniaid 5:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni. Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn. Gyfeillion, gweddïwch drosom ninnau. Cyfarchwch y cyfeillion i gyd â chusan sanctaidd. Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!
1 Thesaloniaid 5:21-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. O frodyr, gweddïwch drosom. Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.