1 Thesaloniaid 5:16-22
1 Thesaloniaid 5:16-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch byth â stopio gorfoleddu! Daliwch ati i weddïo. Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Peidiwch bod yn rhwystr i waith yr Ysbryd Glân. Peidiwch wfftio proffwydoliaethau. Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda. Cadwch draw oddi wrth bob math o ddrygioni.
1 Thesaloniaid 5:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.
1 Thesaloniaid 5:16-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch lawen yn wastadol. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. Na ddiffoddwch yr Ysbryd. Na ddirmygwch broffwydoliaethau. Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.