1 Thesaloniaid 4:3-5
1 Thesaloniaid 4:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol; y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch, ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw
1 Thesaloniaid 4:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy’n dangos eich bod chi’n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol. Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol – yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy’n gadael i’w chwantau redeg yn wyllt.
1 Thesaloniaid 4:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw