1 Thesaloniaid 4:16-18
1 Thesaloniaid 4:16-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o’r nefoedd. Bydd Duw’n rhoi’r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi’n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. Yna byddwn ni sy’n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda’r Arglwydd am byth. Felly calonogwch eich gilydd gyda’r geiriau hyn.
1 Thesaloniaid 4:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd, felly, â'r geiriau hyn.
1 Thesaloniaid 4:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.