1 Thesaloniaid 4:13-14
1 Thesaloniaid 4:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy’n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru – does ganddyn nhw ddim gobaith. Dŷn ni’n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni’n credu hefyd y bydd Duw yn dod â’r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e’n dod yn ôl.
1 Thesaloniaid 4:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith. Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â'r rhai a hunodd drwy Iesu.
1 Thesaloniaid 4:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.