1 Thesaloniaid 4:1-8
1 Thesaloniaid 4:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy. Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni’n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun: Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy’n dangos eich bod chi’n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol. Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol – yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy’n gadael i’w chwantau redeg yn wyllt. Ddylai neb groesi’r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi’r rhai sy’n pechu’n rhywiol – dŷn ni wedi’ch rhybuddio chi’n ddigon clir o hynny o’r blaen. Mae Duw wedi’n galw ni i fyw bywydau glân, dim i fod yn fochaidd. Felly mae unrhyw un sy’n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy’n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy’r rhain!
1 Thesaloniaid 4:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bellach, gyfeillion, fel y cawsoch eich hyfforddi gennym ni pa fodd y dylech fyw er mwyn boddhau Duw (ac felly, yn wir, yr ydych yn byw), yr ydym yn gofyn ichwi, ac yn deisyf arnoch yn yr Arglwydd Iesu, i ragori fwyfwy. Oherwydd gwyddoch pa gyfarwyddyd a roddasom ichwi oddi wrth yr Arglwydd Iesu. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol; y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch, ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw; nid yw neb i gam-drin ei gyd-grediniwr, na manteisio arno yn ei ymwneud ag ef, oherwydd, fel y dywedasom wrthych o'r blaen, a'ch rhybuddio, y mae'r Arglwydd yn dial am yr holl bethau hyn. Oherwydd galwodd Duw ni, nid i amhurdeb ond i sancteiddrwydd. Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Glân i chwi.
1 Thesaloniaid 4:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.