1 Thesaloniaid 2:13-14
1 Thesaloniaid 2:13-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni’n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn – neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae’n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy’n credu. Ffrindiau, mae’r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy’n gwasanaethu’r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef.
1 Thesaloniaid 2:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym ni'n diolch i Dduw yn ddi-baid ar gyfrif hyn hefyd: eich bod chwi, wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynol ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw, sydd hefyd ar waith ynoch chwi sy'n gredinwyr. Oherwydd daethoch chwi, gyfeillion, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Jwdea, oherwydd yr ydych chwi wedi dioddef yr un pethau yn union oddi ar law eich cydwladwyr ag y maent hwythau oddi ar law yr Iddewon
1 Thesaloniaid 2:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu. Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon