1 Thesaloniaid 1:1-10
1 Thesaloniaid 1:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus, At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw y Tad a’r Arglwydd Iesu Grist: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni Duw a’i heddwch dwfn. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi’n gyson. Bob tro dŷn ni’n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a’n Tad, dŷn ni’n cofio am y cwbl dych chi’n ei wneud am eich bod chi’n credu; am y gwaith caled sy’n deillio o’ch cariad chi, a’ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist. Dŷn ni’n gwybod, ffrindiau, fod Duw wedi’ch caru chi a’ch dewis chi yn bobl iddo’i hun. Pan ddaethon ni â’n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i’w weld, ac roedden ni’n hollol sicr fod ein neges ni’n wir. A dych chi’n gwybod hefyd sut roedden ni’n ymddwyn yn eich plith chi – roedden ni’n gwneud y cwbl er eich lles chi. A dyma chi’n derbyn y neges gyda’r brwdfrydedd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi, er eich bod chi wedi gorfod dioddef am wneud hynny. Roeddech chi’n dilyn ein hesiampl ni, a’r Arglwydd Iesu ei hun. A dyna sut daethoch chi’ch hunain i fod yn esiampl i’r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia. Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy’n byw’n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhobman wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth! Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw’n sôn amdanoch chi’n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu’r Duw byw ei hun – y Duw go iawn! Maen nhw hefyd yn sôn am y ffordd dych chi’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Mab Duw yn dod i’r golwg eto o’r nefoedd. Ie, Iesu, yr un gafodd ei godi yn ôl yn fyw, ac sy’n ein hachub ni rhag cael ein cosbi pan fydd Duw yn barnu’r byd.
1 Thesaloniaid 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul a Silfanus a Timotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Gras a thangnefedd i chwi. Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddïau, a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist. Gwyddom, gyfeillion annwyl gan Dduw, eich bod chwi wedi eich ethol, oherwydd nid ar air yn unig y daeth atoch yr Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu, ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Glân, a chydag argyhoeddiad mawr. Fe wyddoch chwithau hefyd pa fath rai oeddem ni yn eich plith, ac er eich mwyn chwi. Daethoch chwi yn efelychwyr ohonom ni ac o'r Arglwydd, gan ichwi dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, ynghyd â llawenydd yr Ysbryd Glân. Felly daethoch yn esiampl i bawb o'r credinwyr ym Macedonia ac yn Achaia. Canys oddi wrthych chwi yr atseiniodd gair yr Arglwydd, ac nid ym Macedonia ac Achaia yn unig; y mae eich ffydd chwi yn Nuw wedi mynd ar led ym mhob man, fel nad oes angen i ni ddweud dim. Oherwydd y mae pobl ohonynt eu hunain yn sôn amdanom, y fath dderbyniad a gawsom i'ch plith, a'r modd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r gwir Dduw byw, ac i ddisgwyl ei Fab o'r nefoedd, y Mab a gyfododd ef oddi wrth y meirw, sef Iesu, yr un sydd yn ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod.
1 Thesaloniaid 1:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw. Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi. A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân: Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia. Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim. Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw; Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.