Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 6:1-13

1 Samuel 6:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Arch yr ARGLWYDD wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis. A dyma’r Philistiaid yn galw’r offeiriaid a’r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i’w lle ei hun.” Dyma nhw’n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e’ch cosbi chi.” “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi’ch taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o’r chwyddau a phump model o’r llygod sy’n difa’r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e’n stopio’ch cosbi chi, a’ch duwiau a’ch gwlad. Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd! Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy’n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i’w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a’u rhoi yn y cwt. Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy’n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd a gwylio. Os bydd hi’n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi’n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.” A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw’n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a’u clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt. Yna dyma nhw’n rhoi Arch Duw ar y wagen, a’r bocs gyda’r llygod aur a’r modelau o’r chwyddau ynddo. A dyma’r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw’n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh. Roedd pobl Beth-shemesh yn casglu’r cynhaeaf gwenith yn y dyffryn. Pan welon nhw’r Arch roedden nhw wrth eu boddau.

1 Samuel 6:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i arch yr ARGLWYDD fod yn Philistia saith mis, galwodd y Philistiaid ar yr offeiriaid a'r dewiniaid a gofyn, “Beth a wnawn ni ag arch yr ARGLWYDD? Dywedwch wrthym sut yr anfonwn hi'n ôl i'w lle.” Atebasant, “Os ydych yn anfon arch Duw Israel yn ôl, peidiwch â'i hanfon heb rodd, gofalwch anfon gyda hi offrwm dros gamwedd; yna cewch eich iacháu a darganfod pam na symudwyd ei law oddi arnoch.” Pan ofynnwyd pa offrwm dros gamwedd a roddent iddo, dywedasant, “Pum cornwyd aur a phum llygoden aur, yn ôl nifer arglwyddi'r Philistiaid, oherwydd yr un pla a fu ar bawb ohonoch chwi a'ch arglwyddi. Gwnewch fodelau o'ch cornwydydd, a'r llygod sy'n difa'r wlad, a rhowch ogoniant i Dduw Israel; efallai y bydd yn ysgafnhau ei law oddi arnoch chwi a'ch duw a'ch gwlad. Pa les ystyfnigo fel y gwnaeth Pharo a'r Aifft? Wedi iddo ef eu trin fel y mynnai, oni fu raid iddynt ollwng Israel ymaith? Yn awr, paratowch fen newydd a chymryd dwy fuwch flith heb fod dan iau; rhwymwch y buchod wrth y fen a chadw eu lloi i mewn rhag iddynt eu dilyn. Yna cymerwch arch yr ARGLWYDD a'i rhoi ar y fen, ac mewn cist wrth ei hochr rhowch y pethau aur yr ydych yn eu hanfon iddo yn offrwm dros gamwedd; a gadewch i'r arch fynd. Yna cewch weld; os â i fyny am Beth-semes i gyfeiriad ei chynefin, ef sydd wedi achosi'r drwg mawr hwn i ni; ond os nad â, byddwn yn gwybod nad ei law ef a'n trawodd, ond mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn.” Dyna a wnaeth y dynion, cymryd dwy fuwch fagu a'u rhwymo wrth fen a chadw eu lloi mewn cwt. Rhoesant arch yr ARGLWYDD ar y fen, gyda'r gist a'r llygod aur a'r modelau o'u cornwydydd. Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu hôl hyd at derfyn Beth-semes. Yr oedd pobl Beth-semes yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn, a phan godasant eu llygaid a gweld yr arch, yr oeddent yn llawen o'i gweld.

1 Samuel 6:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu arch yr ARGLWYDD yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd. A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr ARGLWYDD? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref. Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch DUW Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi. Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi. Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i DDUW Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir. A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ: A chymerwch arch yr ARGLWYDD, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni. A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ: Ac a osodasant arch yr ARGLWYDD ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt. A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes. A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.