Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 4:1-11

1 Samuel 4:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A byddai Samuel yn rhannu’r neges gydag Israel gyfan. Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw’n gwersylla yn Ebeneser, tra oedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec. Dyma’r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o’u dynion eu lladd. Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i’r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i’r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi’n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!” Felly dyma nhw’n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n eistedd uwchben y cerwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda’r Arch. Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai’r ddaear yn crynu! Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, roedden nhw’n holi, “Pam maen nhw’n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw’n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i’r gwersyll. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae’r duwiau wedi dod i’w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o’r blaen. Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy’n mynd i’n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma’r duwiau wnaeth daro’r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch. Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi’n mynd yn gaeth i’r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!” Felly dyma’r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma’r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd. Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a chafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd.

1 Samuel 4:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan. Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Ebeneser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec. Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad. Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, “Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion.” Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees. Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd â bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio. Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, “Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?” Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll, ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, “Daeth duw i'r gwersyll.” Ac meddent, “Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen. Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid â phob math o bla yn yr anialwch. Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd.” Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wŷr traed Israel. Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli.

1 Samuel 4:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec. A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr. A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion. Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod DUW. A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear. A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr ARGLWYDD a ddaethai i’r gwersyll. A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth DUW i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn. Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch. Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch. A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed. Ac arch DUW a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.