1 Samuel 31:1-13
1 Samuel 31:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r Philistiaid yn dod ac ymladd yn erbyn Israel, ac roedd rhaid i filwyr Israel ffoi. Cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd ar fynydd Gilboa. Yna dyma’r Philistiaid yn mynd ar ôl Saul a’i feibion, a dyma nhw’n llwyddo i ladd y meibion – Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma’r bwasaethwyr yn ei daro a’i anafu’n ddifrifol. Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i’r paganiaid yma ddod i’m cam-drin i a’m lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny; felly dyma Saul yn cymryd ei gleddyf a syrthio arno. Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e. Felly cafodd Saul a tri o’i feibion, y gwas oedd yn cario’i arfau a’i filwyr i gyd, eu lladd y diwrnod hwnnw. Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i’r dyffryn, a’r tu draw i’r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw’n gadael eu trefi a ffoi; a symudodd y Philistiaid i fyw ynddyn nhw. Y diwrnod ar ôl y frwydr pan aeth y Philistiaid i ddwyn oddi ar y cyrff meirw, daethon nhw o hyd i Saul a’i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. Dyma nhw’n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, yna anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi’r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. Wedyn dyma nhw’n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan. Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi’i wneud i Saul, aeth eu milwyr i gyd allan a theithio drwy’r nos. Dyma nhw’n cymryd cyrff Saul a’i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a’u llosgi yno. Wedyn, dyma nhw’n cymryd yr esgyrn a’u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.
1 Samuel 31:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhag y Philistiaid, a syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa. Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul. Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul; daeth y dynion oedd yn saethu â bwâu o hyd iddo, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol gan y saethwyr. Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, “Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm trywanu a'm gwaradwyddo.” Nid oedd ei gludydd arfau'n fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf, a marw gydag ef. Felly bu farw Saul a'i dri mab a'i gludydd arfau yr un diwrnod â'i gilydd. Pan welodd yr Israeliaid oedd yr ochr draw i'r dyffryn a thros yr Iorddonen fod dynion Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant y trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt. Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i dri mab wedi syrthio ar Fynydd Gilboa. Torasant ei ben ef, a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da yn nheml eu delwau ac i'r bobl. Rhoesant ei arfau yn nheml Astaroth, a chrogi ei gorff ar fur Beth-sean. Pan glywodd trigolion Jabes-gilead beth oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, aeth pob rhyfelwr ohonynt ar unwaith liw nos a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion oddi ar fur Beth-sean, a'u cludo i Jabes a'u llosgi yno. Yna cymerasant eu hesgyrn a'u claddu dan y dderwen yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.
1 Samuel 31:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno. A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef. Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd. A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt. A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa. A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl. A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan. A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul; Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno. A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.