1 Samuel 28:7-8
1 Samuel 28:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Ewch i chwilio am wraig sy’n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma’i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy’n dewino yn En-dor.” Felly dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e, a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i’n gofyn amdano.”
1 Samuel 28:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.” Dywedodd ei weision wrtho, “Y mae yna ddewines yn Endor.” Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth â dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, “Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt.”
1 Samuel 28:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.