1 Samuel 25:14-16
1 Samuel 25:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd un o'r llanciau wedi dweud wrth Abigail, gwraig Nabal, “Clyw, fe anfonodd Dafydd negeswyr o'r diffeithwch i gyfarch ein meistr, ond fe'u difrïodd. Bu'r dynion yn dda iawn wrthym ni, heb ein cam-drin na pheri dim colled inni yr holl adeg y buom yn ymdroi gyda hwy pan oeddem yn y maes. Buont yn fur inni, nos a dydd, yr holl adeg y buom yn bugeilio'r praidd yn eu hymyl.
1 Samuel 25:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y cyfamser, roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o’r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe’n gweiddi a rhegi arnyn nhw. Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda’n gilydd yng nghefn gwlad. Roedden nhw fel wal o’n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd yr holl amser y buon ni’n gofalu am y defaid yn yr ardal honno.
1 Samuel 25:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni; ond efe a’u difenwodd hwynt. A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes. Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid.