1 Samuel 23:14-29
1 Samuel 23:14-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law. Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff. Aeth Jonathan fab Saul draw i Hores at Ddafydd a'i galonogi trwy Dduw a dweud wrtho, “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn.” Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref. Aeth pobl Siff at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn ymguddio yn ein hardal, yn llochesau Hores ym mryniau Hachila i'r de o Jesimon? Pryd bynnag yr wyt ti'n dymuno, O frenin, tyrd i lawr, a rhown ninnau ef yn llaw'r brenin.” Ac meddai Saul, “Bendigedig fyddoch gan yr ARGLWYDD am ichwi drugarhau wrthyf. Ewch yn awr a gwneud yn sicr eto; ceisiwch wybod a gwylio'i lwybrau, a phwy a'i gwelodd yno. Dywedir wrthyf ei fod yn un cyfrwys iawn. Wedi ichwi weld a gwybod ym mha un o'r holl guddfannau y mae'n ymguddio, dewch yn ôl ataf pan fyddwch yn sicr, a dof finnau gyda chwi. Cyhyd â'i fod yn y wlad, fe chwiliaf amdano ym mhob man, ie, trwy holl lwythau Jwda.” Aethant yn ôl i Siff cyn i Saul gyrraedd, ac yr oedd Dafydd a'i wŷr yn niffeithwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jesimon. Yna daeth Saul a'i wŷr i geisio Dafydd, ond dywedwyd wrth Ddafydd, ac aeth yntau i lawr i'r creigiau ac arhosodd yn niffeithwch Maon. Clywodd Saul, ac aeth i erlid Dafydd i ddiffeithwch Maon; ac yr oedd ef yn mynd ar hyd un ochr i'r mynydd, a Dafydd a'i wŷr ar hyd yr ochr arall. Fel yr oedd Dafydd yn brysio i osgoi Saul, a Saul a'i wŷr yn cau am Ddafydd a'i wŷr i'w dal, cyrhaeddodd negesydd a dweud wrth Saul, “Tyrd ar unwaith, oherwydd y mae'r Philistiaid wedi ymosod ar y wlad.” Felly peidiodd Saul ag ymlid Dafydd, ac aeth i wrthwynebu'r Philistiaid. Dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Sela Hammalecoth. Aeth Dafydd i fyny oddi yno a byw yn llochesau En-gedi.
1 Samuel 23:14-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano drwy’r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo’i ddal. Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio’i ladd e. Ond dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i’w annog i drystio Duw. Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i’n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.” Ar ôl i’r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i’w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre. Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i’r de o Jeshimon. Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni’n gyfrifol am ei roi e’n dy afael di.” Ac meddai Saul wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a phwy sydd wedi’i weld e yno. Maen nhw’n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys. Ffeindiwch allan lle yn union mae e’n cuddio. Pan fyddwch chi’n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i’n dod gyda chi. Bydda i’n dod o hyd iddo ble bynnag mae e, yng nghanol pobl Jwda i gyd.” Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a’i ddynion yn anialwch Maon, yn Nyffryn Araba i’r de o Jeshimon. A dyma Saul a’i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o’r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon. Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon. Roedd Saul un ochr i’r mynydd pan oedd Dafydd a’i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a’i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a’i ddynion a’u dal nhw. Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio’n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad. Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.) Yna aeth Dafydd i fyny o’r fan honno ac aros mewn lle saff yn En-gedi.
1 Samuel 23:14-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd DUW ef yn ei law ef. A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed. A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn NUW. Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr ARGLWYDD. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun. Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch? Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin. A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr ARGLWYDD: canys tosturiasoch wrthyf. Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn. Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; ac os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda. A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch. Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon. A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd, a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt. Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad. Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth. A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.