1 Samuel 20:41-42
1 Samuel 20:41-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i’r bachgen fynd dyma Dafydd yn dod i’r golwg o’r tu ôl i’r pentwr cerrig. Aeth ar ei liniau ac ymgrymu gyda’i wyneb ar lawr dair gwaith. Wedyn dyma’r ddau ffrind yn cusanu ei gilydd a wylo, yn enwedig Dafydd. Dwedodd Jonathan wrth Dafydd, “Bendith arnat ti! Dŷn ni’n dau wedi gwneud addewid i’n gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yn siŵr ein bod ni a’n plant yn cadw’r addewid yna.” Felly dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd, ac aeth Jonathan yn ôl adre.
1 Samuel 20:41-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu ôl i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd. Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.” Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.
1 Samuel 20:41-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd. A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.