1 Samuel 20:16-18
1 Samuel 20:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a’u galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.” A dyma Jonathan yn addo ar lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd e’n caru Dafydd fwy na fe ei hun. Meddai Jonathan, “Mae hi’n ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw’n dy golli di.
1 Samuel 20:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd.” Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun. A dywedodd Jonathan wrtho, “Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
1 Samuel 20:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr ARGLWYDD hyn ar law gelynion Dafydd. A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef. A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.