Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 2:1-36

1 Samuel 2:1-36 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn: “Dw i mor falch o’r ARGLWYDD. Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion, am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub. Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD. Does neb tebyg i ti; neb sy’n graig fel ein Duw ni. Peidiwch brolio’ch hunain a siarad mor snobyddlyd, oherwydd mae’r ARGLWYDD yn Dduw sy’n gwybod popeth, ac mae’n barnu popeth sy’n cael ei wneud. Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri, ond bydd y rhai sy’n baglu yn cael nerth. Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy’n llwgu’n cael eu llenwi. Bydd y wraig sy’n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu. Yr ARGLWYDD sy’n lladd a rhoi bywyd. Fe sy’n gyrru rhai i’r bedd ac yn achub eraill oddi yno. Yr ARGLWYDD sy’n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog; fe sy’n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny. Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw, a’r rhai sydd mewn angen o’r domen sbwriel i eistedd gyda’r bobl bwysig ar y sedd anrhydedd. Duw sy’n dal colofnau’r ddaear, a fe osododd y byd yn ei le arnyn nhw. Mae’n gofalu am y rhai sy’n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e’n taranu o’r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy’n barnu’r byd i gyd. Mae’n rhoi grym i’w frenin, a buddugoliaeth i’r un mae wedi’i ddewis.” Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu’r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. Dyma beth roedd yr offeiriaid i fod i’w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth: Wrth iddyn nhw ferwi’r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â thair pig iddi yn ei law. Byddai’n gwthio’r fforch i’r badell, y fasged neu’r crochan, a beth bynnag fyddai’r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi’r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o’r cig i’r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi’i ferwi, dim ond cig ffres.” Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i’r braster gael ei losgi gynta; cei di gymryd beth bynnag wyt ti’n ei ffansïo wedyn,” byddai’r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i’n defnyddio grym.” Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma’n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i’r ARGLWYDD. Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu’r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main. Roedd ei fam yn arfer gwneud côt fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a’i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno’u haberth. Byddai Eli yn bendithio Elcana a’i wraig, a dweud, “Boed i’r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi’i fenthyg iddo.” Yna bydden nhw’n mynd yn ôl adre. A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch. Yn y cyfamser, roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai’n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e’n gwybod hefyd eu bod nhw’n cael rhyw gyda’r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw). Byddai’n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi’n bihafio fel yma? Dw i’n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi’n eu gwneud. Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy’r straeon sy’n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda. Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy’n mynd i’w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio’r ARGLWYDD a phobl. Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw’n gaethweision i’r Pharo. Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario’r effod o mlaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i’w llosgi i mi. Felly, pam dych chi’n amharchu’r aberthau a’r offrymau dw i wedi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti’n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi’n stwffio’ch hunain gyda’r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’ “Felly, dyma neges yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o’r fath beth!’ Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dw i’n rhoi parch i’r rhai sy’n fy mharchu i, ond yn dangos dirmyg at y rhai sy’n fy nghymryd i’n ysgafn. Gwylia di, mae’r amser yn dod pan fydda i’n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen! Byddi’n gweld helynt yn fy nghysegr i! Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb o dy deulu di yn byw i fod yn hen. Bydda i’n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw’n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc. “‘A dyma’r arwydd i brofi i ti fod hyn i gyd yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod! Wedyn bydda i’n dewis offeiriad sy’n ffyddlon i mi. Bydd e’n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e’n gwasanaethu’r un fydda i’n ei eneinio’n frenin am byth. Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o’i flaen i ofyn am arian neu damaid i’w fwyta. Byddan nhw’n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i’w fwyta.’”

1 Samuel 2:1-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gweddïodd Hanna a dweud: “Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD, dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD. Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion, oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus, na gadael gair hy o'ch genau; canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD, ac ef sy'n pwyso gweithredoedd. Dryllir bwâu y cedyrn, ond gwregysir y gwan â nerth. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara, ond y newynog yn gorffwyso bellach. Planta'r ddi-blant seithwaith, ond dihoeni a wna'r aml ei phlant. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau, yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi, yn darostwng a hefyd yn dyrchafu. Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, i'w osod i eistedd gyda phendefigion ac i etifeddu cadair anrhydedd; canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear, ac ef a osododd y byd arnynt. Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid, ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch; canys nid trwy rym y mae trechu. Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD; tarana o'r nef yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear; fe rydd nerth i'w frenin a dyrchafu pen ei eneiniog.” Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli. Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD. Arfer yr offeiriaid gyda'r bobl, pan fyddai unrhyw un yn offrymu aberth, oedd hyn: tra oeddent yn berwi'r cig, dôi gwas yr offeiriad gyda fforch deirpig yn ei law a'i tharo i mewn i'r badell, neu'r sosban, neu'r crochan neu'r llestr; yna cymerai'r offeiriad beth bynnag a ddygai'r fforch i fyny. Felly y gwneid yn Seilo gyda'r holl Israeliaid a ddôi yno. Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, “Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres.” Os dywedai'r dyn, “Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni,” atebai, “Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym.” Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain. Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol. A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.” Ac fe ymwelodd yr ARGLWYDD â Hanna, a beichiogodd a geni tri mab a dwy ferch. Tyfodd y bachgen Samuel yn nhŷ'r ARGLWYDD. Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod. Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd. Na'n wir, fy meibion, nid da yw'r hanes y clywaf bobl Dduw yn ei ledaenu. Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd. Ac yr oedd y bachgen Samuel yn dal i gynyddu ac ennill ffafr gyda Duw a'r bobl. Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion yn nhŷ Pharo? Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid. Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais, ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?’ Am hynny,” medd ARGLWYDD Dduw Israel, “er yn wir imi ddweud y câi dy linach a'th deulu wasanaethu ger fy mron am byth, yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “pell y bo hynny oddi wrthyf, oherwydd y rhai sy'n f'anrhydeddu a anrhydeddaf, a diystyrir fy nirmygwyr. Y mae'r dyddiau ar ddod y torraf i ffwrdd dy nerth di a nerth dy dylwyth, rhag bod un hynafgwr yn dy dŷ. Yna, yn dy gyfyngdra, byddi'n llygadu holl lwyddiant Israel, ond ni fydd henwr yn dy dŷ di byth. Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw. Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod. Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol. A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”

1 Samuel 2:1-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. Nid sanctaidd neb fel yr ARGLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein DUW ni. Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys DUW gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir. Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. Y rhai a ymrysonant â’r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog. Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad. A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD. A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law; Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno. Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd. Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder. Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD. A Samuel oedd yn gweini o flaen yr ARGLWYDD, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain. A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol. Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr ARGLWYDD. A hwy a aethant i’w mangre eu hun. A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr ARGLWYDD. Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi. Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu. Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt. A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd. A daeth gŵr i DDUW at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo? Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel? Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel? Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir. Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di. A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna DUW o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth. A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr. A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau. A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd. A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd