1 Samuel 2:1-11
1 Samuel 2:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gweddïodd Hanna a dweud: “Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD, dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD. Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion, oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD, yn wir nid oes neb heblaw tydi, ac nid oes craig fel ein Duw ni. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus, na gadael gair hy o'ch genau; canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD, ac ef sy'n pwyso gweithredoedd. Dryllir bwâu y cedyrn, ond gwregysir y gwan â nerth. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara, ond y newynog yn gorffwyso bellach. Planta'r ddi-blant seithwaith, ond dihoeni a wna'r aml ei phlant. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau, yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi, yn darostwng a hefyd yn dyrchafu. Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, i'w osod i eistedd gyda phendefigion ac i etifeddu cadair anrhydedd; canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear, ac ef a osododd y byd arnynt. Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid, ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch; canys nid trwy rym y mae trechu. Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD; tarana o'r nef yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear; fe rydd nerth i'w frenin a dyrchafu pen ei eneiniog.” Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.
1 Samuel 2:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. Nid sanctaidd neb fel yr ARGLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein DUW ni. Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys DUW gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir. Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. Y rhai a ymrysonant â’r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog. Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad.