1 Samuel 17:38-39
1 Samuel 17:38-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhoddodd Saul ei wisg ei hun am Ddafydd: rhoi helm bres ar ei ben, ei wisgo yn ei lurig, a gwregysu Dafydd â'i gleddyf dros ei wisg. Ond methodd gerdded, am nad oedd wedi arfer â hwy. Dywedodd Dafydd wrth Saul, “Ni fedraf gerdded yn y rhain, oherwydd nid wyf wedi arfer â hwy.” A diosgodd hwy oddi amdano.
1 Samuel 17:38-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e’i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a’i arfwisg bres amdano. Wedyn, dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e’n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai e wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd.
1 Samuel 17:38-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig. A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano.