1 Samuel 17:32-36
1 Samuel 17:32-36 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i’n barod i ymladd y Philistiad yna!” “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o’r praidd. Bydda i’n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o’i geg. Petai’n ymosod arna i, byddwn i’n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a’i ladd. Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i’n gwneud yr un fath i’r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw!
1 Samuel 17:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai Dafydd wrth Saul, “Peidied neb â gwangalonni o achos hwn; fe â dy was ac ymladd â'r Philistiad yma.” Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.” Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was; pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd. Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.”
1 Samuel 17:32-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac a’i lleddais ef. Felly dy was di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y DUW byw.